Tutor/Assessor - TAQA

About us:

Gower College Swansea is one of the largest colleges in Wales with a strong reputation for high quality teaching and learning. We have six campuses across the city with over 4,500 full time learners and 10,000 part time learners.  We currently have a turnover of over £50 million making us a major employer in the region with approximately 1,000 staff.

At Gower College Swansea we are passionate about investing in our staff and looking after their wellbeing to ensure they feel supported in work and also at home.

The role:

To deliver high quality training and assessing to learners within the relevant sector. Programmes may include Work Based Learning, NVQs, European Funded projects, bespoke programmes and workshops.

  • 18.5 hours per week
  • Fixed term for 1 year
  • £14,175 - £15,601 per annum
  • Jubilee Court Campus, Swansea

Key Responsibilities:

  • Plan, prepare and deliver assessments across a range of courses ensuring schemes/records of work, assignment schedules, are appropriate to the syllabus content and awarding body standards
  • Plan and deliver up to 12 hours per week of classroom training to learners as required (pro rata for fractional staff)    
  • Ensure training and assessment strategies and materials are planned and accessible to meet the varied needs of all learners, and that cross-cutting themes (for example, Prevent, British Values, Safeguarding, Essential Skills Wales, Welsh language) are embedded and assessed effectively.
  • Assess and monitor learner progress, including the setting of targets, maintaining records of work and achievement.

About you:

  • Level 3 qualification or equivalent in any sector
  • Experience and occupational competence to assess Level 1- 4 or equivalent
  • Proven track record of assessing learners in any sector

Benefits for you:

  • 28 days pro rata annual leave, plus bank holidays, and the college is closed for two weeks over the Christmas period
  • A Local Government Pension Scheme with an average employer contribution of 21% (2023)
  • A Teacher’s Pension Scheme with an average employer contribution of 23.68% (2023)
  • 2 staff well-being days
  • Discounted study opportunities on College programmes
  • View more benefits here: https://www.gcs.ac.uk/recruitment/staff-benefits-wellbeing

Need help with your application? Please click here to read our guidance.

We welcome applications from individuals regardless of age, gender, ethnicity, disability, sexual orientation, gender identity, socio-economic background, religion and/or belief. We particularly welcome applications from groups currently underrepresented within our organisation.

If you wish to continue your application journey using Welsh Language, please visit our Cymraeg site. We encourage Welsh Language applications as we recognise the importance of delivering services in Welsh, and the need to grow our bilingual workforce.

Gower College Swansea is committed to safeguarding and promoting the welfare of young people and expects all staff to share this commitment. Appointments are subject to an enhanced DBS check and require registration with the Education Workforce Council for Wales.

Please note that we are expecting a high volume of applicants for this vacancy. If we do, we may close the post before the specified date, therefore an early application is recommended.

Appointments will normally be made to the bottom of the salary scale with annual increments on 1st August each year (subject to a start date before 1st February).  

Benefits:
https://www.gcs.ac.uk/recruitment/staff-benefits-wellbeing

For further information about the role including job description and application form please visit the vacancies section of our website via the apply link.

 

Tiwtor/Aseswr -TAQA  

Cyfeirnod: AUG20247874

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Cyflwyno darpariaeth hyfforddi ac asesu o ansawdd uchel i ddysgwyr o fewn y sector perthnasol. Bydd rhaglenni’n cynnwys Dysgu Seiliedig ar Waith, prosiectau a ariennir gan Gyllid y Llywodraeth, rhaglenni pwrpasol a gweithdai.

  • 18.5 awr yr wythnos
  • Cyfnod Penodol - 1 blwyddyn
  • £14,175 - £15,601 y flwyddyn 
  • Llys Jiwbilî

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Cynllunio, paratoi ac addysgu ar draws amrywiaeth o gyrsiau gan sicrhau bod cynlluniau/cofnodion gwaith ac amserlenni aseiniadau yn briodol i gynnwys y maes llafur a safonau'r corff dyfarnu.
  • Cynllunio a chyflwyno hyd at 12 awr o hyfforddfiant yr wythnos i ddysgwyr, yn ôl yr angen (pro rata ar gyfer staff ffracsiynol).
  • Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau addysgu yn cael eu cynllunio yn ogystal â bod yn hygyrch i ateb anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr, a bod themâu trawsbynciol (megis ADCDF, Ethos Cymreig, Sgiliau Hanfodol, Cyflogadwyedd) yn cael eu gwreiddio a’u hasesu yn effeithiol.
  • Asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnwys gosod targedau, cadw cofnodion o waith a chyflawniad.

Amdanoch chi:

  • Cymhwyster Lefel 3 neu’r cyfwerth mewn unrhyw sector 
  • Profiad a chymhwysedd galwedigaethol i Asesu Lefel 1- 4 neu’r cyfwerth 
  • Hanes o asesu dysgwyr mewn unrhyw sector

Buddion:

  • 28 diwrnod pro rata o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
  • Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 23% ar gyfartaledd (2023)
  • 2 ddiwrnod lles i staff
  • Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch ein tudalen canllaw. 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1). 

Buddion:
https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles