Governor

About Gower College Swansea 

Putting learners at the heart of everything we do

Could you support us in leading the way in education and training for the communities we serve?

Gower College Swansea is looking for talented and dedicated people to join its Corporation Board. 

As a Governor, you would be part of an ambitious organisation at an exciting time of further growth and development.

One of the largest further education colleges in Wales, Gower College Swansea operates with over 4,500 full time and 8,000 part time learners – including 3,000 apprentices – from across the city and neighbouring counties studying each year.

Today, the College runs from six locations across Swansea, including campuses at Tycoch and Gorseinon, and is one of the largest employers in the region with over 1,000 staff with an annual turnover of just under £60m.

The College offers almost 40 different A Level choices and a wide range of vocational subject areas for school leavers, in addition to apprenticeships and higher education courses. It also boasts sector-led business-to-business training to individuals and employers across the region in England and Wales, as well as tailored employability support.

The College is going from strength to strength and the past 12 months alone have seen some incredible achievements, including:

  • Continuing academic success across A Levels – our overall pass rate in 2023 was 98% and ten of our students have received offers for Oxford and Cambridge in September 2024
  • A massive success too for our vocational students in both Skills Competition Wales (30 medals won in 2023) and Worldskills (six of our students made the national finals)  
  • Winning the prestigious Association of Colleges Beacon Award for Widening Participation.
  • Celebrating our HR team, who were honoured with the prestigious Best Health and Wellbeing Initiative Public/ Third Sector 2023 award by the Chartered Institute of Personnel and Development (CIPD).
  • Securing a Stonewall Bronze Award
  • Retaining our Corporate Health Standards Gold Award.

To continue to develop, we rely on the dedication of our committed team of Governors who help us work towards both our short- and long-term goals.

What is the role of a Governor?

As a Governor, you would play an active part in the life of the College, and will be invited to attend our celebratory events throughout the year which showcase the incredible success of our learners.

The Board meets seven times a year and our meetings start at 5pm lasting for around 2 hours. Once a year we organise a strategic awayday and Governors are invited to attend for training and an opportunity to discuss the strategic direction of the College. Governors are also responsible for the overseeing the appointment of the Chief Executive, Principal and Clerk. 

The Governor role, which is a voluntary position, requires a time commitment of around four or five hours per month. During this time, we would ask that you review reports and attend Board and Committee meetings. Much of the work of the Board is carried out in a hybrid format and members are given support to maximise their contribution either in person or online.

What are the benefits?

In exchange for your invaluable contribution, there are a number of benefits to becoming a Governor. 

Understanding how a FE college operates will help you to develop a deeper insight into the education sector, and provide you with an opportunity to have a tangible impact on the communities that we serve. 

For those people in the early stages of their career, being a Governor can be a perfect way to help you develop leadership and influencing skills and gain unique insights into governance and management, all of which are invaluable for career progression. 

Being on the Board can be an enriching experience that contributes to personal growth and professional development offering you: 

  • Leadership and governance training
  • Networking with professionals across various industries
  • A platform to advocate for educational excellence and community engagement.

The College wants to encourage the involvement from all parts of our community. We highly welcome applications from people from underrepresented backgrounds or communities as we strive, not only diversify the Board, but also enrich decision-making with a broad spectrum of perspectives.

Members of the Board really can and do make a difference. It is a challenging and interesting role that will give you an opportunity to get involved and make a positive contribution to your community 

Concerned about the time commitment? Talk to the Clerk, you might prefer to become a co-opted member to a committee of the Board or to attend Board meetings with a watching brief with a view to understanding if you would be able to join us in future. We currently have eight committees, covering a range of activity. Our committees meet between three and five times a year for around two hours.

The Clerk is happy to answer your queries or set up an informal chat with the CEO, Principal, Chair, or any current Governor to talk through this opportunity.

Being a governor can be a very rewarding role and we are keen to support you.

Please contact Amanda for more details: 

Amanda.Kirk@gcs.ac.uk or 
01792 284222. 

Benefits:
https://www.gcs.ac.uk/recruitment/benefits-and-wellbeing

For further information about the role including job description and application form please visit the vacancies section of our website via the apply link.

 

Llywodraethwr  

Cyfeirnod: MAR20244450

Am Coleg Gwyr Abertawe

Rhoi dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn

Allech chi ein cynorthwyo i arwain y ffordd mewn addysg a hyfforddiant ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu?

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am bobl dalentog ac ymroddgar i ymuno â’i Fwrdd y Gorfforaeth.

Fel Llywodraethwr, byddech yn rhan o sefydliad uchelgeisiol ar gyfnod cyffrous o dwf a datblygiad pellach.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn un o’r colegau addysg bellach mwyaf yng Nghymru, ac mae’n gweithredu gyda thros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 8,000 o ddysgwyr rhan-amser – gan gynnwys 3,000 o brentisiaid – o bob rhan o’r ddinas a siroedd cyfagos yn astudio pob blwyddyn.

Heddiw, mae’r Coleg yn rhedeg o chwe lleoliad ar draws Abertawe, gan gynnwys campysau yn Nhycoch a Gorseinon, ac mae’n un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal gyda thros 1,000 o staff a throsiant blynyddol o ychydig dan £60m.

Mae’r Coleg yn cynnig bron 40 o ddewisiadau Safon Uwch ac amrywiaeth eang o feysydd pwnc galwedigaethol i ymadawyr ysgol, yn ogystal â phrentisiaethau a chyrsiau addysg uwch. Mae hefyd yn darparu hyfforddiant busnes-i-fusnes a arweinir gan y sector i unigolion a chyflogwyr ledled yr ardal yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â chymorth cyflogadwyedd wedi’i deilwra.

Mae’r Coleg yn mynd o nerth i nerth ac yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig bu cyflawniadau anhygoel, gan gynnwys:

  • Llwyddiant academaidd parhaus – ein cyfradd pasio gyffredinol yn 2023 oedd 98% ac mae 10 o’n myfyrwyr wedi cael cynigion  ar gyfer Rhydychen a Chaergrawnt ym mis Medi 2024
  • Llwyddiant ysgubol hefyd i’n myfyrwyr galwedigaethol yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru (enillwyd 30 medal yn 2023) a Worldskills (cyrhaeddodd chwech o’n myfyrwyr y rowndiau terfynol cenedlaethol) 
  • Ennill Gwobr Beacon nodedig Cymdeithas y Colegau am Ehangu Cyfranogiad
  • Dathlu ein tîm Adnoddau Dynol, a enillodd wobr fawreddog Menter Iechyd a Lles Orau y Sector Cyhoeddus/Trydydd Sector gan Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD)
  • Sicrhau Gwobr Efydd Stonewall
  • Cadw ein Gwobr Aur Safonau Iechyd Corfforaethol.
     

Er mwyn parhau i ddatblygu, rydym yn dibynnu ar ymroddiad ein tîm ymrwymedig o Lywodraethwyr sy’n ein helpu i weithio tuag at ein nodau tymor byr a hir.

Beth yw rôl Llywodraethwr?

Fel Llywodraethwr, byddech yn chwarae rhan weithgar ym mywyd y Coleg, a chewch eich gwahodd i fynychu digwyddiadau dathlu drwy gydol y flwyddyn sy’n arddangos llwyddiannau anhygoel ein dysgwyr.

Mae’r Bwrdd yn cwrdd saith gwaith y flwyddyn ac mae ein cyfarfodydd yn dechrau am 5pm ac yn para rhyw ddwy awr. Unwaith y flwyddyn, rydym yn trefnu diwrnod cwrdd i ffwrdd strategol ac mae Llywodraethwyr yn cael eu gwahodd i ddod am hyfforddiant a chyfle i drafod cyfeiriad strategol y Coleg. Mae Llywodraethwyr hefyd yn gyfrifol am oruchwylio penodiad y Prif Weithredwr, y Pennaeth a’r Clerc.

Mae rôl y Llywodraethwr yn swydd wirfoddol sy’n gofyn am ymrwymiad amser o ryw bedair neu bum awr y mis. Yn ystod yr amser hwnnw, byddem yn gofyn i chi adolygu adroddiadau a mynychu cyfarfodydd Bwrdd a Phwyllgorau. Mae llawer o waith y Bwrdd yn cael ei wneud mewn fformat hybrid ac mae aelodau yn cael cymorth i gyfrannu cymaint ag sy’n bosibl naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Beth yw’r buddion?

Yn gyfnewid am eich cyfraniad gwerthfawr, mae nifer o fuddion cysylltiedig â bod yn Llywodraethwr.

Bydd deall sut mae coleg AB yn gweithredu yn eich helpu i ddatblygu gwybodaeth ddyfnach am y sector addysg, a bydd yn gyfle i chi gael effaith sylweddol ar y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

I’r bobl hynny sydd ar ddechrau eu gyrfa, mae bod yn Llywodraethwr yn gallu bod yn ffordd berffaith o’ch helpu i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth a dylanwadu a chael cipolwg unigryw ar lywodraethu a rheoli, ac mae’r rhain oll yn amhrisiadwy ar gyfer symud ymlaen yn eich gyrfa.

Mae bod ar y Bwrdd yn gallu bod yn brofiad cyfoethogol sy’n cyfrannu at dwf personol a datblygiad proffesiynol gan gynnig y canlynol i chi:

  • Hyfforddiant arweinyddiaeth a llywodraethu
  • Rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol ar draws diwydiannau amrywiol
  • Llwyfan i eirioli dros ragoriaeth addysgol ac ymgysylltiad cymunedol.

Mae’r Coleg yn awyddus i annog cyfraniad gan bob rhan o’n cymuned. Rydym yn croesawu yn fawr geisiadau gan bobl o gefndiroedd neu gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli wrth i ni ymdrechu i amrywiaethu’r Bwrdd a chyfoethogi’r broses o wneud penderfyniadau gyda sbectrwm eang o safbwyntiau.

Mae aelodau o’r Bwrdd yn gallu gwneud gwahaniaeth ac yn wir maen nhw yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n rôl heriol a diddorol fydd yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan a chyfrannu’n bositif at eich cymuned.

Pryderu am yr ymrwymiad amser? Dewch i siarad â’r Clerc, efallai y byddwch am fod yn aelod cyfetholedig o’r Bwrdd neu ddod i gyfarfodydd y Bwrdd i’w gwylio er mwyn cael dealltwriaeth ynghylch a fyddech yn gallu ymuno â ni yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae gennym wyth pwyllgor, sy’n cwmpasu amrywiaeth o weithgarwch. Mae ein pwyllgorau yn cwrdd rhwng tair a phum gwaith y flwyddyn am ryw ddwy awr.

Bydd y Clerc yn hapus i ateb eich ymholiadau neu drefnu sgwrs anffurfiol gyda’r Prif Swyddog Gweithredol, y Pennaeth, y Cadeirydd, neu unrhyw Lywodraethwr presennol i drafod y cyfle hwn.

Mae bod yn Llywodraethwr yn gallu bod yn rôl werth chweil iawn ac rydym yn awyddus i’ch cefnogi.

Cysylltwch ag Amanda am ragor o fanylion:

Amanda.Kirk@gcs.ac.uk neu
01792 284222.

Buddion:
https://www.gcs.ac.uk/recruitment/benefits-and-wellbeing