Estates Officer

About us:

Gower College Swansea is one of the largest colleges in Wales with a strong reputation for high quality teaching and learning. We have six campuses across the city with over 4,500 full time learners and 10,000 part time learners. We currently have a turnover of over £50 million making us a major employer in the region with approximately 1,000 staff.

At Gower College Swansea we are passionate about investing in our staff and looking after their wellbeing to ensure they feel supported in work and also at home.

The role:

Reporting to the Estates Manager you will be working as part of a resilient and robust Estates team assisting on variety of elements that contribute to the day to day operations of the department. The role will involve developing, managing and monitoring the Colleges procedures for statutory asset compliance inspections, equipment servicing and initiating corrective, reactive and planned works orders on a range of asset groups.

  • Full Time (37 hours per week)
  • Permanent
  • £31,948 – £34,077 per annum
  • Tycoch Campus

Key Responsibilities:

  • Produce reports on a weekly basis in respect of performance management and audits relating to statutory inspection and periodic testing.
  • Work with departmental technicians to identify and monitor any requirements relating to statutory inspection and periodic testing throughout all sites.
  • Continually strive to improve statutory compliance systems and provide effective compliance management support and guidance to College departments.
  • With the Estates Manager plan, schedule, co-ordinate and record statutory inspection and testing regimes across all college buildings to ensure they are fit for purpose. 

About you:

  • NEBOSH National General Certificate in Occupational Health and Safety or willingness to achieve this within 6 months
  • Level 2 (GCSE) or equivalent Maths and English qualification
  • Working knowledge of a range of statutory compliance issues and testing requirements as identified in the Job Description

Benefits for you:

  • 28 days annual leave, plus bank holidays, and the college is closed for two weeks over the Christmas period
  • A Local Government Pension Scheme with an average employer contribution of 21% (2023)
  • 2 staff well-being days
  • Cycle to work scheme
  • View more benefits here: https://www.gcs.ac.uk/recruitment/benefits-and-wellbeing

We welcome applications from individuals regardless of age, gender, ethnicity, disability, sexual orientation, gender identity, socio-economic background, religion and/or belief. We particularly welcome applications from groups currently underrepresented within our organisation.

If you wish to continue your application journey using Welsh Language, please visit our Cymraeg site. We encourage Welsh Language applications as we recognise the importance of delivering services in Welsh, and the need to grow our bilingual workforce.

Gower College Swansea is committed to safeguarding and promoting the welfare of young people and expects all staff to share this commitment. Appointments are subject to an enhanced DBS check and require registration with the Education Workforce Council for Wales.

Please note that we are expecting a high volume of applicants for this vacancy. If we do, we may close the post before the specified date, therefore an early application is recommended.

Appointments will normally be made to the bottom of the salary scale with annual increments on 1st August each year (subject to a start date before 1st February).

Benefits:
https://www.gcs.ac.uk/recruitment/benefits-and-wellbeing

For further information about the role including job description and application form please visit the vacancies section of our website via the apply link.

 

 

Swyddog Ystadau  

Cyfeirnod: NOV20231531

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Diben y rôl yw datblygu, rheoli a monitro systemau a gweithdrefnau’r Coleg ar gyfer iechyd a diogelwch ac arolygu a chydymffurfio statudol amgylcheddol.  Nodi gofynion deddfwriaethol a gweithredu dull arfer gorau ar draws holl safleoedd y campws, gan roi gwybod i staff perthnasol fel sy'n ofynnol.

  • Amser-Llawn (37 awr yr wythnos)
  • Parhaol
  • £31,948 – £34,077 y flwyddyn
  • Campws Tycoch

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Nodi dulliau arfer gorau a rhoi diweddariadau deddfwriaethol i’r rheolwr Ystadau ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd mewn perthynas ag arolygu statudol a phrofi cyfnodol
  • Nodi unrhyw ofynion adrannol penodol sy'n ymwneud ag arolygu statudol a phrofi cyfnodol
  • Gweithio gyda chydweithwyr ystadau wrth geisio gwella systemau cydymffurfio statudol yn barhaus a darparu cymorth rheoli cydymffurfio effeithiol a chanllawiau i adrannau’r Coleg
  • Gyda’r Rheolwr Ystadau a’r Rheolwr Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd; cynllun, caffael, amserlennu, cydlynu a chofnodi trefnau arolygu a phrofi statudol yn holl adeiladau’r coleg er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben. 

Amdanoch chi:

  • Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol neu barodrwydd i gyflawni hyn o fewn 6 mis
  • Cymhwyster priodol yn y diwydiant adeiladu
  • Gwybodaeth am amrywiaeth o faterion cydymffurfio statudol a gofynion profi fel y nodwyd yn y Disgrifiad Swydd

 Buddion:

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
  • 2 ddiwrnod lles i staff
  • Cynllun beicio i’r gwaith
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Buddion:
https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing