Transition and Review Officer (ALN)

About us:

Gower College Swansea is one of the largest colleges in Wales with a strong reputation for high quality teaching and learning. We have six campuses across the city with over 4,500 full time learners and 10,000 part time learners.  We currently have a turnover of over £50 million making us a major employer in the region with approximately 1,000 staff.

At Gower College Swansea we are passionate about investing in our staff and looking after their wellbeing to ensure they feel supported in work and also at home.

The role:

Enable the College to be an active party in the transition process for learners with additional learning needs (ALN) through attending reviews and planning for a successful transition.  Monitor the effectiveness of the support provided through conducting annual reviews using person-centred practice.

  • 37 hours per week
  • Fixed-Term until 31st August 2024
  • £26,621 - £29,297 Per Annum
  • Swansea, across College campuses 
  • Interview date: 11th July 2023

Key Responsibilities:

  • To liaise with the education and advice providers e.g. Careers Wales, local schools and care providers with the aim of identifying appropriate provision for young people in College.
  • To engage with potential new learners from local schools and other agencies and create meaningful transition opportunities for learners with Additional Learning Needs and Disabilities (ALND) into college, whilst proactively responding to the changing governmental strategies and policies for this area.
  • Hold IDP/LSP reviews using person centred techniques and ensure that all relevant stakeholders are identified and have an opportunity to contribute.

About you:

  • Proven experience of working with young people with ALN in group and individual settings in a post 16 environment.
  • Experience of multi-agency liaison and signposting. 
  • Empathic and responsive to learners needs, being able to motivate, engage and enthuse learners in innovative ways.

Benefits for you:

  • 28 days annual leave, plus bank holidays, and the college is closed for two weeks over the Christmas period
  • Free Parking
  • A Local Government Pension Scheme with an average employer contribution of 21% (2023)
  • Access to an Employee Assistance Programme which provides a 24/7 counselling service
  • Access to staff fitness trainer/nutritionist/exercise classes
  • Discounted study opportunities on College programmes
  • Staff support groups: menopause, LGBTQ+, time for talking
  • View more benefits here: https://www.gcs.ac.uk/recruitment/benefits-and-wellbeing

We welcome applications from individuals regardless of age, gender, ethnicity, disability, sexual orientation, gender identity, socio-economic background, religion and/or belief. We particularly welcome applications from groups currently underrepresented within our organisation.

If you wish to continue your application journey using Welsh Language, please visit our Cymraeg site. We encourage Welsh Language applications as we recognise the importance of delivering services in Welsh, and the need to grow our bilingual workforce.

Gower College Swansea is committed to safeguarding and promoting the welfare of young people and expects all staff to share this commitment. Appointments are subject to an enhanced DBS check and require registration with the Education Workforce Council for Wales.

Appointments will normally be made to the bottom of the salary scale with annual increments on 1st August each year (subject to a start date before 1st February). 

Buddion:
28 days holiday, plus 5 closure days and 8 bank holidays, Local Government Pension scheme, a range of employee benefits including salary sacrifice schemes, staff discounts and free parking

Attachments: Lawrlwytho TransitionandReviewOfficer...

For further information about the role please visit the vacancies section of our website via the apply link.

 

Swyddog Pontio ac Adolygu (ADY)

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Galluogi’r Coleg i fod yn rhan weithredol o’r broses bontio ac adolygu ar gyfer dysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) trwy fynychu adolygiadau a rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau proses bontio llyfn a di-dor. Monitro effeithiolrwydd y cymorth a ddarperir trwy ddefnyddio dulliau personol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

  • 37 awr yr wythnos 
  • Cyfnod Penodol tan 31 Awst 2024 
  • £26,621 - £29,297 Per Annum
  • Abertawe, ar draws amrywiol safleoedd 
  • Dyddiad Cyfweliad - Gorffenaf 11 2023

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Cyfathrebu â darparwyr addysg a chymorth megis Gyrfa Cymru, ysgolion lleol a darparwyr gofal, gan geisio nodi’r ddarpariaeth berthnasol ar gyfer pobl ifanc y Coleg.
  • Ymgysylltu â darpar ddysgwyr posib mewn ysgolion lleol ac asiantaethau eraill a chreu cyfleoedd pontio cynhwysfawr i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anableddau i’r coleg, gan ymateb yn rhagweithiol i strategaethau a pholisïau’r Llywodraeth.
  • Cynnal adolygiadau IDP/LSP gan ddefnyddio technegau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a sicrhau bod yr holl rhanddeiliaid perthnasol yn cael eu nodi a’u bod yn cael cyfle i gyfrannu. Defnyddio canllawiau, protocolau neu fframweithiau a ddarperir.

Amdanoch chi:

  • Hanes o weithio â phobl ifanc ADY mewn grwpiau, yn unigol ac mewn amgylchedd ôl-16.
  • Profiad o gysylltu ag asiantaethau allanol a chyfeirio pobl atynt.
  • Empathig ac ymatebol i anghenion dysgwyr, gan eu hannog a’u hysbrydoli mewn ffyrdd arloesol.

 Buddion:

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Parcio am ddim
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
  • Mynediad i Raglen Cymorth Gweithwyr sy’n cynnig gwasanaeth cwnsela 24/7
  • Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
  • Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
  • Grwpiau cymorth staff: menopos, LGBTQ+, amser i siarad
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Buddion:
28 diwrnod o wyliau, yn ogystal â 5 diwrnod cau ac 8 gwyl banc, Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, amrywiaeth o fanteision i weithwyr gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.

Attachments: Lawrlwytho TransitionandReviewOfficer...