Careers and Employment Coach (Welsh essential)

In this role, you will provide impartial careers information, advice and guidance sessions to students and clients on other external projects e.g. JGW+

You will also provide advice and guidance sessions to students, and assist students with key progression and career tasks including UCAS personal statements, UCAS applications, CV creation, personal skills development, job applications, interview techniques and employment searches.

If you have experience of working with young people in an advisory role and experience of providing information, advice, and guidance to a wide range of individuals, we want to hear from you!

For further information, please view the job information pack.

Bridgend College recognises its responsibility to ensure the safety and wellbeing of all students.  We apply a rigorous process of checking the suitability of staff and volunteers to work with children and vulnerable adults. The above post is subject to a satisfactory/enhanced DBS disclosure for child and adult workforce and registration as a FE Learning Support Worker with the Education Workforce Council.

Bridgend College understands the value of providing services in Welsh and the need to grow its bilingual workforce. We therefore encourage applications from candidates who are able to demonstrate good Welsh language skills. Please specify in your personal statement whether you would prefer to have your assessment/interview conducted in Welsh.

We are actively seeking to improve representation from all sections of the community and promoting equality of opportunity.  We welcome applications from everyone, including people from different backgrounds and communities, and of different ages.

We are proud to be a Disability Confident Leader and we guarantee to interview anyone with a disability if their application meets the essential criteria for the post, and consider them on their abilities. We can also offer reasonable adjustments throughout the recruitment process.

Please note there may be a requirement for a second stage interview or assessment.

Hyfforddwr Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd (Cymraeg yn Hanfodol) Graddfa gyflog 4/5: £21,846- £26,993 y flwyddyn  Llawn Amser a Pharhaol

Yn y rôl hon, byddwch yn darparu sesiynau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd am yrfaoedd i fyfyrwyr a chleientiaid o brosiectau allanol eraill e.e. Twf Swyddi Cymru+

Byddwch hefyd yn darparu sesiynau cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr, ac yn cynorthwyo myfyrwyr gyda thasgau cynnydd a gyrfaoedd allweddol, gan gynnwys datganiadau personol UCAS, ceisiadau UCAS, creu CV, datblygu sgiliau personol, gwneud ceisiadau am swyddi, technegau cyfweliad, a chwilio am swyddi. 

Os oes gennych brofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn rôl gynghorol a phrofiad o ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i ystod eang o unigolion, hoffem glywed gennych! 

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu / Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. (https://www.myewc.wales/ewc-jol/app/index_live.php?lang=cy#/welcome)

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.

For further information about the role please visit the vacancies section of our website via the apply link.