Aspire Learner Voice Co-ordinator (within the College’s Aspire Department)

Location
Haverfordwest, Pembrokeshire (Sir Benfro)
Salary
£19,808 per annum, pro rata
Posted
14 Sep 2022
Closes
28 Sep 2022
Contract Type
Permanent
Hours
Part Time

Pembrokeshire College has an exciting opportunity for a Learner Voice Coordinator to join the Aspire Quality Team. Do you have the enthusiasm needed to listen to our College students, and be their voice for change? Are you a brilliant communicator, and able to effectively engage with young people? If so, we want to hear from you!

Salary: Currently £19,808 pro rata (fractionalised posts are paid in equal amounts over 12 months and the appropriate element of holiday pay will be incorporated into the calculation)

Contract Type: Salaried. Permanent

Hours of Work:  25 hours per week to be worked over 32 weeks during the  College’s term. Working pattern to be agreed with line manager   upon appointment 

Qualifications:  It is essential to hold a minimum  of 5 GCSE’s at grade C or above to include English. An IT qualification at level 2 would be advantageous.

Experience:  You must have a good standard of written and oral communication.  You will be a good communicator, in particular with young people. You will have creative and innovative methods of inspiring learners to engage with Learner Voice and participate in Learner Voice activity. Whilst it is not essential, experience of being a former or current student at the College would be an advantage.

Details: You will demonstrate initiative, have an organised and structured approach with the ability to multi-task, whilst working accurately to targets and deadlines. You will need good IT skills and a willingness to improve them when necessary, especially in relation to data analysis and reporting. You will need the ability to work effectively with students and staff; be approachable, flexible and with a professional manner. You will also need to be outgoing, with the confidence to engage with learners on a day to day basis, in the learner Hub, as well as around the College grounds.

Pembrokeshire College particularly welcomes applications from:  applicants with good Welsh language verbal communication skills /Applicants with disabilities / Armed Forces Reservists / Job share applicants.  All College employees are required to safeguard and promote the welfare of children and vulnerable adults.

Please see attached advert and job description for further details about this vacancy.

All College employees are required to safeguard and promote the welfare of children and vulnerable adults.

Please note: Successful candidates will be required to undertake an enhanced DBS check prior to commencing work (the cost of this will be covered by the College up to 31st July 2023).

Pembrokeshire College particularly welcomes the following: applicants with good Welsh language verbal communication skills /Applicants with disabilities / Armed Forces Reservists / Job share applicants.

Please ensure that the current version of the application form is completed for all vacancies.  The current version of the application form is attached to this vacancy.

Closing Date:  Midnight, Wednesday 28th September 2022

To apply for this vacancy, please download the attached application form and return this to recruitment@pembrokeshire.ac.uk


Cydlynydd Llais y Dysgwr Aspire (o fewn Adran Aspire y Coleg)

Mae gan Goleg Sir Benfro gyfle cyffrous i Gydlynydd Llais y Dysgwr ymuno â Thîm Ansawdd Aspire. Oes gennych chi'r brwdfrydedd sydd ei angen i wrando ar ein myfyrwyr y Coleg, a bod yn llais iddyn nhw dros newid? Ydych chi'n gyfathrebwr gwych, ac yn gallu ymgysylltu'n effeithiol â phobl ifanc? Os felly, rydym am glywed gennych!

Cyflog: £19,808 pro rata (telir swyddi ffracsiynol mewn symiau cyfartal dros 12 mis a bydd yr elfen briodol o dâl gwyliau yn cael ei chynnwys yn y cyfrifiad)

Math o Gontract: Cyflogedig. Parhaol

Oriau Gwaith:  25 awr yr wythnos i’w gweithio dros 32 wythnos yn ystod tymor y Coleg Patrwm gweithio i'w gytuno gyda'r Rheolwr Llinell ar ôl penodi

Cymwysterau:  Mae'n hanfodol meddu ar o leiaf 5 TGAU ar radd C neu'n uwch i gynnwys Saesneg. Byddai cymhwyster TG ar lefel 2 yn fanteisiol.

Profiad:  Rhaid bod gennych safon dda o gyfathrebu ysgrifenedig a llafar. Byddwch yn gyfathrebwr da, yn enwedig gyda phobl ifanc. Bydd gennych ddulliau creadigol ac arloesol o ysbrydoli dysgwyr i ymgysylltu â Llais y Dysgwr a chymryd rhan mewn gweithgaredd Llais y Dysgwr. Er nad yw'n hanfodol, byddai profiad o fod yn gyn-fyfyriwr neu'n fyfyriwr presennol yn y Coleg yn fantais.

Manylion:  Byddwch yn dangos menter, bydd gennych ddull trefnus a strwythuredig gyda'r gallu i aml-dasgio, wrth weithio'n gywir i dargedau a therfynau amser. Bydd angen sgiliau TG da arnoch a pharodrwydd i'w gwella pan fydd angen, yn enwedig mewn perthynas â dadansoddi ac adrodd ar ddata. Bydd angen y gallu arnoch i weithio'n effeithiol gyda myfyrwyr a staff, yn gydnaws, yn hyblyg a gyda dull proffesiynol. Bydd angen i chi hefyd fod yn gymdeithasol, gyda'r hyder i ymgysylltu â dysgwyr o ddydd i ddydd, yn Hwb y Dysgwr, yn ogystal ag o amgylch adeilad y Coleg.

Mae Coleg Sir Benfro yn croesawu ceisiadau yn benodol gan: ymgeiswyr sydd â sgiliau cyfathrebu llafar Cymraeg da / ymgeiswyr ag anableddau / Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog / ymgeiswyr rhannu swyddi. Mae'n ofynnol i holl weithwyr y Coleg ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion agored i niwed.

Gweler yr hysbyseb a’r disgrifiad swydd atodol am fanylion pellach am y swydd.

Mae'n ofynnol i holl weithwyr y Coleg ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion agored i niwed.

Noder: Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad DBS manwl cyn dechrau gweithio (bydd y Coleg yn talu am hyn hyd at 31 Gorffennaf 2023).

Mae Coleg Sir Benfro yn croesawu’n arbennig y canlynol:  ymgeiswyr â sgiliau cyfathrebu llafar Cymraeg da/ymgeiswyr ag anableddau /Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog/ymgeiswyr rhannu swyddi.

Gwnewch yn siwr bod fersiwn gyfredol y ffurflen gais wedi'i chwblhau ar gyfer pob swydd wag. Mae fersiwn gyfredol y ffurflen gais ynghlwm wrth y swydd wag hon.

Dyddiad Cau:  Hanner Nos, dydd Mercher 28  Medi 2022

I wneud cais am y swydd wag hon, lawrlwythwch y ffurflen gais amgaeedig a'i dychwelyd i recruitment@pembrokeshire.ac.uk

Similar jobs

Similar jobs