0.5 Lecturer in Public and Protective Services

Benefits: Pro rata of National contract holiday entitlement, plus pro rate of 5 closure days and pro rata of 8 bank holidays, Teacher's Pension Scheme TPS, a range of employee benefits including salary sacrifice schemes, staff discounts and free parking

Attachments: PublicServicesLecturer-JDPS-June2022.doc

Gower College Swansea are looking to appoint an outstanding practitioner to support delivery on Level 2 and Level 3 Public and Protective Service courses across two main delivery campuses in Gorseinon and Tycoch. 

The successful candidate will deliver on health-related and skills-related modules as part of their teaching programme with additional responsibilities in tutorial also likely.  The candidate will be expected to demonstrate a commitment for continual improvement, a passion for innovation and excellence in teaching and learning, and be adept at motivating and inspiring learners from a range of backgrounds and level of prior achievement. As part of a committed team, they will be keen to support both curricular and extra-curricular enrichment activities for learners and recognise the importance of active, vocationally relevant learning approaches. 

Applications may be submitted in Welsh and will be treated no less favourably than applications submitted in English.  Gower College Swansea recognises the importance of delivering its services in Welsh and recognises the need to grow its bilingual workforce.  We therefore encourage applications from candidates who can demonstrate good Welsh Language skills

Gower College Swansea is committed to safeguarding and promoting the welfare of young people and expects all staff to share this commitment.  Appointments are subject to an enhanced DBS check and require registration with the Education Workforce Council for Wales.

Please note that we are expecting a high volume applicants for this vacancy.  If we do, we may close the post before the specified date, therefore an early application is recommended.

Appointments will normally be made to the bottom of the salary scale with annual increments on 1st August each year (subject to completing 6 months service).

For further information about the role including job description and application form please visit the vacancies section of our website via the apply link.

 

0.5 Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus ac Amddiffynnol

Benefits: Hawl i gael gwyliau'r contract cenedlaethol ar sail pro-rata, 5 diwrnod cau pro-rata ac 8 gwyl banc pro-rata, Cynllun Pensiwn Athrawon, amrywiaeth o fanteision i gyflogeion gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim

Attachments: PublicServicesLecturer-JDPS-June2022(CYM).doc

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn bwriadu penodi ymarferydd rhagorol i gefnogi darpariaeth ar gyrsiau Gwasanaeth Cyhoeddus ac Amddiffynnol Lefel 2 a Lefel 3 ar draws y ddau brif gampws addysgu yng Ngorseinon a Thycoch.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu modiwlau sy’n gysylltiedig ag iechyd a sgiliau fel rhan o’i raglen addysgu gyda chyfrifoldebau ychwanegol mewn sesiynau tiwtorial hefyd yn debygol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd ddangos ymrwymiad i welliant parhaus, angerdd am arloesi a rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu, a bod yn fedrus o ran cymell ac ysbrydoli dysgwyr o amrywiaeth o gefndiroedd a lefelau cyflawniad blaenorol. Fel rhan o dîm ymroddedig, bydd yn awyddus i gefnogi gweithgareddau cyfoethogi cwricwlaidd ac allgyrsiol ar gyfer dysgwyr a chydnabod pwysigrwydd dulliau dysgu gweithredol, sy’n alwedigaethol berthnasol.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe yn cydnabod pwysigrwydd darparu ei wasanaethau yn Gymraeg ac yn cydnabod yr angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da.

Mae Coleg Gwyr Abertawe wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac mae’n disgwyl i bob aelod o staff rannu’r ymrwymiad hwn. Mae penodiadau yn amodol ar wiriad DBS manwl a bydd angen cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Sylwch ein bod yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os felly, mae’n bosibl y byddwn yn cau’r swydd cyn y dyddiad penodedig, felly argymhellir eich bod yn gwneud cais cynnar.

Fel arfer gwneir penodiadau i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar gwblhau 6 mis o wasanaeth)