Work-Based Learning Assessor in Site Carpentry

This post involves the assessment of practical skills and associated underpinning knowledge related to the NVQ programmes at levels 2 and 3 on company premises. You will be working with young people, apprentices and mature candidates wishing to obtain industry recognised competency qualifications. You will be expected to work as an integral part of our delivery and assessment team, be required to plan and organise workplace visits, support/mentor students, carry out on-site practical assessments, and maintain associated student assessment records and progress reviews at our customer sites throughout the South Wales area.

This position requires a high-level of self- motivation and organisational skills to complete a busy workload within strict timescales. You will be able to demonstrate a wide range of both practical experience and technical competence in Site Carpentry supported by the completion of a recognised apprenticeship with a minimum of five years post apprenticeship experience and appropriate technical qualifications.

For more information, please click on the link:

Job Information Pack

For further information, please view the job information pack. 

Bridgend College recognises its responsibility to ensure the safety and wellbeing of all students. We apply a rigorous process of checking the suitability of staff and volunteers to work with children and vulnerable adults. The above post is subject to an enhanced DBS disclosure for child and adult workforce and registration as a Work-based learning practitioner with the Education Workforce Council. 

We are actively seeking to improve representation from all sections of the community and promoting equality of opportunity. We welcome applications from everyone, including people from different backgrounds and communities, and of different ages. 

We are proud to be a Disability Confident Leader and we guarantee to interview anyone with a disability if their application meets the essential criteria for the post, and consider them on their abilities. We can also offer reasonable adjustments throughout the recruitment process. 

Please note there may be a requirement for a second stage interview or assessment.

 


Seiliedig ar Waith Mewn Gwaith Saer Safle 

Mae'r swydd hon yn cynnwys asesu sgiliau ymarferol a'r wybodaeth sylfaenol gysylltiedig yn ymwneud a rhaglenni NVQ ar lefelau 2 a 3 ar safle cwmni. Byddwch yn gweithio gyda phobl ifanc, prentisiaid ac ymgeiswyr aeddfed sy'n dymuno cael cymwysterau cymhwysedd a gydnabyddir gan y diwydiant. Disgwylir i chi weithio fel rhan allweddol o'n tim cyflenwi ac asesu, bydd angen i chi gynllunio a threfnu ymweliadau gweithle, cefnogi/mentora myfyrwyr, cynnal asesiadau ymarferol ar-safle a chynnal cofnodion asesu myfyrwyr cysylltiedig ac adolygiadau cynnydd ar safleoedd ein cwsmeriaid ledled De Cymru. Mae angen lefel uchel o hunan-gymhelliant a sgiliau trefnu ar gyfer y swydd er mwyn cyflawni llwyth gwaith prysur o fewn amserlenni caeth. Bydd angen i chi fedru dangos ystod eang o brofiad ymarferol a chymhwysedd technegol mewn Gwaith Saer Safle a gefnogir gan gwblhau prentisiaeth gydnabyddedig gydag o leiaf bum mlynedd o brofiad ol-prentisiaeth a chymwysterau technegol priodol. 

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cliciwch ar y ddolen isod:

 Pecyn Gwybodaeth Swydd

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.