Technician - Heavy Vehicle

You will maintain all systems, tools, equipment, instruments and teaching aids to ensure efficient functioning of Learning programmes. This also involves preparing various motor-vehicles and workshops for demonstrations, practical sessions and for assessment purposes. You will also be responsible for maintaining all related documentation for machinery and equipment, maintenance records, stores, orders, equipment inventories and Health & Safety risk assessment documentation.

The ideal candidate will be educated to a minimum of a Level 3 standard and possess a good range of Heavy Vehicle experience. You will also possess good general workshop skills, including the ability to maintain and repair vehicles and various machinery. With excellent interpersonal skills and the ability to relate to a wide and diverse student population you will be passionate about motivating all learners.

For more information, click on the job information pack below: 

Job Information Pack

Closing Date: 31/08/2021

Please note: Interviews will be held remotely via video conferencing so access to a PC/device with a webcam is required.

Bridgend College recognises its responsibility to ensure the safety and wellbeing of all students.  We apply a rigorous process of checking the suitability of staff and volunteers to work with children and vulnerable adults.

The above post is subject to a satisfactory Enhanced DBS disclosure for child and adult workforce.

For further information about the role including job description and application form please visit the vacancies section of our website via the apply link.

 

Technegydd - Cerbydau Trwm 

Llawn-amser

Graddfa gyflog 3: £20,062 - £21,470 y flwyddyn (pro rata)

Byddwch yn cynnal a chadw’r holl systemau, offer, taclau, offerynnau a chymhorthion dysgu i sicrhau bod rhaglenni dysgu’n gweithredu’n effeithlon. Bydd hyn hefyd cynnwys paratoi amrywiaeth o gerbydau modur a gweithdai ar gyfer arddangosiadau, sesiynau ymarferol ac asesiadau. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gadw’r holl ddogfennaeth berthnasol ar gyfer peiriannau ac offer, cofnodion cynnal a chadw, cyflenwadau, archebion, rhestrau offer a dogfennau asesu risg Iechyd a Diogelwch.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster Lefel 3 o leiaf, gyda phrofiad o weithio â cherbydau trwm. Byddwch hefyd yn meddu ar sgiliau gweithdy cyffredinol, yn cynnwys y gallu i gynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau a pheiriannau amrywiol. Yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i ddatblygu perthynas â myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol, fe fyddwch yn angerddol am ysgogi pob dysgwr.

I gael mwy o wybodaeth am y swydd, cliciwch ar y pecyn gwybodaeth isod: 

Pecyn Gwybodaeth

Dyddiad Cau: 31/08/2021

Noder: Caiff cyfweliadau eu cynnal o bell drwy fideo gynadledda, felly bydd angen mynediad i gyfrifiadur/dyfais gyda gwe-gamera.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr.  Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed.

Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.