Digital Content Producer

Full-time and Fixed Term for 12 months

Our Marketing Department is looking for a creative individual to support the College’s digital marketing and communications activities. Reporting to the Marketing Manager, you will have a creative flair and technical skills to bring our visual presence to life through engaging digital storytelling.

What are we looking for?

  • Extensive experience of using Adobe After Effects and Premiere Pro, as well as other packages within Adobe Creative Cloud Ideas-driven with a creative outlook  A degree in a relevant discipline Excellent attention to detail and a commitment to producing quality outputs Experience of capturing video footage and photography 

A portfolio of work or showreel is required at the application stage.

For further information, please view the job information pack.

Bridgend College recognises its responsibility to ensure the safety and wellbeing of all students.  We apply a rigorous process of checking the suitability of staff and volunteers to work with children and vulnerable adults.

Cynhyrchydd Cynnwys Digidol

Graddfa gyflog 5: £24,162 - £26,529 y flwyddyn

Llawn Amser am Gyfnod Penodol o 12 mis

Mae ein Hadran Farchnata yn chwilio am unigolyn creadigol i gefnogi gweithgareddau cyfathrebu a marchnata digidol y Coleg. Byddwch yn adrodd i’r Rheolwr Marchnata, a bydd gennych ddawn greadigol a sgiliau technegol i ddod â’n presenoldeb gweledol yn fyw trwy adrodd straeon atyniadol yn ddigidol.

Am beth rydym ni’n chwilio?

  • Profiad helaeth o ddefnyddio Adobe After Effects a Premiere Pro, yn ogystal â phecynnau eraill yn Adobe Creative Cloud. Agwedd greadigol, llawn syniadau.  Gradd mewn pwnc perthnasol. Sylw arbennig at fanylder, ac ymrwymiad i gynhyrchu deunyddiau o ansawdd uchel.
  • Profiad o recordio fideos a thynnu ffotograffau.

Mae angen portffolio o waith neu showreel yn ystod y cam ymgeisio.

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus