Apprenticeship in Information Technology

Location
Haverfordwest, Pembrokeshire (Sir Benfro)
Salary
Apprentice rate £4.30 per hour for the first year
Posted
05 May 2021
Closes
26 May 2021
Job Function
IT / e-learning
Contract Type
Fixed Term
Hours
Full Time

Based within the College’s Computer Services Team

Pembrokeshire College’s Computer Services Team currently has an exciting opportunity for a proactive individual to apply for an Information Technology Apprenticeship.  This role will offer the opportunity to develop a wide range of IT skills within an extremely busy team.

If you are confident and enthusiastic, without administration experience but looking for a career in that field, this could be for you.  Pembrokeshire College is a large employer and can offer many opportunities for the future.  This is initially a fixed term position to run for the duration of the qualification framework (a maximum of 18 months). 

Salary Details:     
Apprentice rate £4.30 per hour for the first year of the apprenticeship.
Having completed the first year of the apprenticeship, (if the apprentice is
aged 19 or over), they will move to the National Minimum Wage rate until
completion of the Framework or end date of the fixed term contract.

Contract Type:   
Full-time (37 hours per week), salaried, fixed term for 18 months (from date of commencement of employment)

Holiday Entitlement: 
28 days per annum plus statutory bank holidays

Qualifications:
Ideally 5 GCSEs A-C including Maths and English Language. Level 3 IT
qualification (or working towards)

Details:
The apprentice appointed will be committed to working towards and achieving a Level 3 Apprenticeship Framework in Information Technology.  Further details of the Framework will be given at interview. This position is based within the Computer Services Team at the College and the person appointed will be an integral part of that team assisting with Helpdesk support of a large IT infrastructure with many end users.

The role will be Helpdesk based and will require a flexible, team oriented approach.  On the job training will be provided, together with access to both formal and informal training.  Pembrokeshire College will also provide the formal training framework for this apprenticeship.  Upon successful completion of the framework, consideration will be given to offering permanent employment at the College. The successful candidate will have the ability to communicate effectively, to use their own initiative and have a well organised approach to work.  The prioritising of tasks is essential, as are excellent IT skills.

Please see attached advert and job description for further details about this vacancy.

All College employees are required to safeguard and promote the welfare of children and vulnerable adults.

Please note: Successful candidates will be required to undertake an enhanced DBS check prior to commencing work (this is to be paid for by the individual at a cost of £40).

Pembrokeshire College particularly welcomes applications from:  applicants with good Welsh language verbal communication skills /Applicants with disabilities / Armed Forces Reservists / Job share applicants.

Please ensure that the current version of the application form is completed for all vacancies.  The current version of the application form is attached to this vacancy.

Closing Date:  Midnight, Wednesday 26th May 2021

To apply for this vacancy, please download the attached application form and return this to recruitment@pembrokeshire.ac.uk

Prentisiaeth mewn Technoleg Gwybodaeth

Wedi lleoli o fewn Tîm Gwasanaethau Cyfrifiadurol y Coleg

Ar hyn o bryd mae gan Dîm Gwasanaethau Cyfrifiadurol Coleg Sir Benfro gyfle cyffrous i unigolyn rhagweithiol a brwdfrydig i wneud cais am Brentisiaeth Technoleg Gwybodaeth. Bydd y rôl hon yn cynnig cyfle i ddatblygu ystod eang o sgiliau TG o fewn tîm hynod o brysur.

Os ydych chi'n hyderus ac yn frwdfrydig, heb brofiad gweinyddol ond yn chwilio am yrfa yn y maes hwn, gallai hyn fod ar eich cyfer chi. Mae Coleg Sir Benfro yn gyflogwr mawr a gall gynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer y dyfodol. I ddechrau, swydd am gyfnod penodol yw hon a fydd yn rhedeg trwy gydol y fframwaith cymwysterau (uchafswm o 18 mis).

Manylion Cyflog:   
Cyfradd prentisiaid £4.30 yr awr ar gyfer blwyddyn gyntaf y brentisiaeth. Ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf y brentisiaeth, (os yw'r prentis yn 19 oed neu'n hŷn), byddant yn symud i'r gyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol hyd nes iddynt gwblhau'r Fframwaith neu ddyddiad gorffen y contract cyfnod penodol.

Math o Gontract:
Llawn-amser (37 awr yr wythnos), cyflogedig, cyfnod penodol am 18 mis (o ddyddiad cychwyn y gyflogaeth)

Hawl Gwyliau:
28 diwrnod y flwyddyn ynghyd â gwyliau banc statudol

Cymwysterau:
Yn ddelfrydol 5 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg. Cymhwyster TG Lefel 3 (neu'n gweithio tuag ato)

Manylion:  
Bydd y prentis a benodir yn ymrwymedig i weithio tuag at a chyflawni Fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth. Rhoddir mwy o fanylion am y Fframwaith yn y cyfweliad. Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yn y Tîm Gwasanaethau Cyfrifiaduron yn y Coleg a bydd y person a benodir yn rhan annatod o'r tîm hwnnw gan gynorthwyo ar Ddesg Gymorth ag iddi seilwaith TG mawr a llawer o ddefnyddwyr.

Bydd y rôl yn seiliedig ar y Ddesg Gymorth a bydd angen dull hyblyg sy'n canolbwyntio ar dîm. Darperir hyfforddiant yn y gwaith, ynghyd â mynediad at hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol. Bydd Coleg Sir Benfro hefyd yn darparu'r fframwaith hyfforddi ffurfiol ar gyfer y brentisiaeth hon. Ar ôl cwblhau'r fframwaith yn llwyddiannus, rhoddir ystyriaeth i gynnig cyflogaeth barhaol yn y Coleg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, defnyddio’u menter eu hunain a chael dull trefnus o weithio. Mae blaenoriaethu tasgau yn hanfodol, ynghyd â sgiliau TG rhagorol.

Gweler yr hysbyseb a’r disgrifiad swydd atodol am fanylion pellach am y swydd.

Mae'n ofynnol i holl weithwyr y Coleg ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion agored i niwed.

Noder: Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gael archwiliad DBS manwl cyn dechrau gweithio (telir hyn gan yr unigolyn ar gost o £40).

Mae Coleg Sir Benfro yn croesawu ceisiadau yn arbennig gan: ymgeiswyr sydd â sgiliau cyfathrebu llafar Cymraeg da/ymgeiswyr ag anableddau/Milwyr wrth Gefn y Lluoedd Arfog/ymgeiswyr rhannu swyddi.

Gwnewch yn siwr bod fersiwn gyfredol y ffurflen gais wedi'i chwblhau ar gyfer pob swydd wag. Mae fersiwn gyfredol y ffurflen gais ynghlwm wrth y swydd wag hon.

Dyddiad Cau: Hanner Nos, Nos Fercher 26 Mai 2021

I wneud cais am y swydd wag hon, lawrlwythwch y ffurflen gais amgaeedig a'i dychwelyd i recruitment@pembrokeshire.ac.uk