Assessor in Childhood Studies

22.2 hours per week (0.6FTE), Term Time Only (10 weeks)

Fixed Term: 26 April 2021 until 9 July 2021

Salary scale 5: £24,162 - £26,529 per annum (pro rata)

(equivalent to £12.52 - £13.75 per hour)

We have an exciting opportunity at Bridgend College for a temporary Assessor in Childhood Studies to join our dedicated and passionate team. 

You will be an integral part of the Care and Childhood Studies team responsible for delivering and assessing qualifications in Childhood Studies. You will have knowledge of assessing students on placement, be educated to NVQ Level 3 or equivalent and have relevant assessor awards.

This post involves the assessment of practical skills and knowledge related to the Level 2 Diploma in Children's Care, Play, Learning and Development. You will plan and organise placement visits, support/mentor our learners, carry out practical assessments within the childcare setting placements, and maintain associated student assessment records and progress reviews at the placement settings throughout South East Wales. Full training will be given on all College systems.

For more information, please click the link below job information pack

Please note: Interviews will be held remotely via video conferencing so access to a PC/device with a webcam is required.

Bridgend College recognises its responsibility to ensure the safety and wellbeing of all students. The above post is subject to a satisfactory Enhanced DBS disclosure for child and adult workforce and registration as a FE Learning Support Worker with the Education Workforce Council.

Bridgend College is accredited to the Disability Confident Employer award, part of this means a commitment to interview all disabled applicants who meet the essential criteria for a job vacancy and consider them on their abilities.

Asesydd Astudiaethau Plentyndod

22.2 awr yr wythnos (cyfwerth â 0.6 amser llawn), Tymor yn unig (10 wythnos)

Cyfnod Penodol: 26 Ebrill 2021 hyd at 9 Gorffennaf 2021

Graddfa gyflog 5: £24,162 - £26,529 y flwyddyn (pro rata)

(cyfwerth â £12.52 - £13.75 yr awr)

Mae cyfle cyffrous gennym yng Ngholeg Penybont i Asesydd Astudiaethau Plentyndod dros dro ymuno â’n tîm ymroddgar ac angerddol. 

Byddwch yn rhan annatod o’r tîm Gofal ac Astudiaethau Plentyndod sy’n gyfrifol am gyflwyno ac asesu cymwysterau Astudiaethau Plentyndod. Bydd gennych wybodaeth am asesu myfyrwyr ar leoliad gwaith, a byddwch yn addysgedig at safon NVQ Lefel 3 neu gyfwerth ac yn meddu ar ddyfarniadau asesu perthnasol.

Mae’r swydd hon yn cynnwys asesu gwybodaeth a sgiliau ymarferol sy’n ymwneud â’r Diploma Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Byddwch yn cynllunio ac yn trefnu ymweliadau â lleoliadau, yn cefnogi/mentora ein dysgwyr, yn cynnal asesiadau ymarferol yn y lleoliadau gofal plant, ac yn cadw cofnodion asesu ac adolygiadau cynnydd myfyrwyr ar gyfer lleoliadau ar draws de ddwyrain Cymru. Darperir hyfforddiant llawn ar gyfer holl systemau’r Coleg.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod: pecyn gwybodaeth swydd

Noder: caiff cyfweliadau eu cynnal o bell drwy fideo gynadledda, felly bydd angen mynediad i gyfrifiadur/dyfais â gwe-gamera.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn gyflogwr Hyderus o Ran Anabledd achrededig, ac fel rhan o hyn mae’r Coleg yn ymrwymo i gyfweld â phob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd a’i ystyried ar sail ei fedrau.