Lecturer in Social Work (0.8FTE)

Unqualified: £20,570 - £24,276 per annum (pro rata)
Qualified: £24,807 - £40,485 per annum (pro rata)

We have an exciting opportunity to join our passionate and enthusiastic Curriculum team at Bridgend College. As a Lecturer, you will plan, develop, deliver and evaluate the curriculum content of learning, providing excellent training across the full Social Work programme. 

It is essential that you have recent experience and a recognised qualification in Social Work, along with knowledge of legislation, social policy and theoretical approaches relating to social work practice. You should be familiar with and feel confident delivering all modules within the Social Work programme, including Evidence Based Practice, Evaluating Social Work and Risk and Decision Making, along with all associated consultation, preparation and marking requirements. With excellent interpersonal skills and the ability to relate to a wide and diverse student population, you will be able to motivate learners of all ages and backgrounds.

You will have a proven record of teaching, training or delivering within Social Work education (or a related field), along with developing and organising work-related materials.

If you feel you could contribute to the teaching and learning within this field, we want to hear from you! For more information, click on the job information pack below: 

Job Information Pack 

Please note: Interviews will be held remotely via video conferencing so access to a PC/device with a webcam is required.

Darlithydd Gwaith Cymdeithasol (cyfwerth â 0.8 gwaith amser llawn)

Digymhwyster: £20,570 - £24,276 y flwyddyn (pro rata)
Cymwysedig: £24,807 - £40,485 y flwyddyn (pro rata)

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm cwricwlwm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont. Fel darlithydd, byddwch yn cynllunio, datblygu, gwerthuso ac yn cyflwyno cynnwys y rhaglen gan ddarparu hyfforddiant rhagorol ar draws y rhaglen Gwaith Cymdeithasol lawn. 

Mae'n hanfodol bod gennych brofiad diweddar a chymhwyster cydnabyddedig mewn gwaith cymdeithasol, ynghyd â gwybodaeth am ddeddfwriaeth, polisi cymdeithasol a dulliau damcaniaethol sy'n ymwneud â gwaith cymdeithasol. Dylech fod yn gyfarwydd â, a theimlo'n hyderus yn, cyflwyno modiwlau addysgu penodol fel Ymarfer ar Sail Tystiolaeth, Gwerthuso Gwaith Cymdeithasol, a Risgiau a Gwneud Penderfyniadau, ynghyd â'r holl ofynion ymgynghori, paratoi a marcio cysylltiedig. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â myfyrwyr amrywiol, byddwch yn gallu ysgogi dysgwyr o bob oed a chefndir.

Bydd gennych record brofedig o ddysgu, hyfforddi neu gyflwyno mewn addysg Gwaith Cymdeithasol (neu mewn maes perthnasol), gan gynnwys datblygu a threfnu adnoddau dysgu.

Os ydych chi’n credu y gallech gyfrannu at y dysgu a'r addysgu yn y maes hwn, hoffem glywed gennych! I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y pecyn gwybodaeth isod:

Pecyn Gwybodaeth Swydd

Noder: Caiff cyfweliadau eu cynnal o bell drwy fideo gynadledda felly bydd angen mynediad i gyfrifiadur/dyfais gyda gwe-gamera.