ILS Tutor/Assessor (Supported Internships)

Gower College Swansea is one of Wales' leading Further Education Colleges and is committed to excellence and to making a lasting contribution to the growth and success of the vibrant communities that we serve. 

The ILS Learning Area is seeking to appoint an inspirational Tutor/Assessor for Supported Internships (Project Search).

Using the ‘Project Search’ delivery model, your role will be to deliver a work skills curriculum to learners with additional needs, in addition to delivering an inclusive employment programme.

This exciting opportunity would involve planning and delivering a new supported internship programme, based at Morriston Hospital, Swansea.

With excellent  organisational and problem solving skills you will be responsible for the consistent delivery of high quality and effective teaching and learning whilst motivating learners to raise their ambitions and realise their full potential.

Qualified to degree level you will possess a recognised teaching/training qualification and have experience of delivering practical training and support to learners with additional needs.

Gower College Swansea is committed to safeguarding and promoting the welfare of young people and expects all staff to share this commitment. Appointments are subject to an enhanced DBS check and require registration with the Education Workforce Council for Wales.

Fixed term until July 2021
Based in Morriston Hospital, Swansea

Please apply via the link.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn un o brif Golegau Addysg Bellach Cymru ac mae’n ymrwymedig i ragoriaeth ac i wneud cyfraniad parhaol i dwf a llwyddiant y cymunedau bywiog rydym yn eu gwasanaethu.

Mae’r Maes Dysgu Sgiliau Byw’n Annibynnol yn awyddus i benodi Tiwtor/Aseswr ysbrydoledig ar gyfer Interniaethau â Chymorth (Prosiect SEARCH).

Gan ddefnyddio’r model cyflawni ‘Prosiect SEARCH’, eich rôl chi fydd cyflwyno cwricwlwm sgiliau gwaith i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol, yn ogystal â chyflwyno rhaglen gyflogaeth gynhwysol.

Byddai’r cyfle cyffrous hwn yn cynnwys cynllunio a darparu rhaglen interniaethau â chymorth newydd, yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Gyda sgiliau trefnu a datrys problemau rhagorol byddwch yn gyfrifol am gyflwyno dysgu ac addysgu effeithiol o safon uchel yn gyson gan ysgogi dysgwyr i godi eu huchelgeisiau a gwireddu eu potensial llawn.

Yn gymwysedig i lefel gradd byddwch yn meddu ar gymhwyster addysgu/hyfforddi cydnabyddedig a bydd gennych brofiad o ddarparu hyfforddiant ymarferol a chymorth i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac mae’n disgwyl i’r holl staff rannu’r ymrwymiad hwn. Mae penodiadau yn amodol ar wiriad DBS manwl a bydd angen cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Cyfnod penodol tan fis Gorffennaf 2021
Lleoliad: Ysbyty Treforys, Abertawe