Lecturer – Electronics*

Gower College Swansea is seeking a qualified and experienced Electronics lecturer to join our successful Engineering department.

You will plan, prepare, and deliver high quality teaching and learning across a range of courses in Electronics from Level 1 to Level 3, motivating and inspiring learners to reach their full potential.

You will develop and employ a variety of learning strategies, including the use of ILT, to ensure excellence in teaching and learning and the achievement of course targets for retention and attainment. Committed to continuous improvement and quality, you will contribute to curriculum development and assist with the planning and marketing of courses.

Educated to at least Level 4 or equivalent in a relevant area, with a grade C or above in a Level 2 literacy and numeracy qualification, you should also possess a recognized teaching/training qualification or be prepared to work towards one.

A clear and confident communicator, you will have excellent organisational, leadership and problem solving skills and the ability to work flexibly, on your own initiative and as part of a team.

Applications may be submitted in Welsh and will be treated no less favourably than applications submitted in English.

Gower College Swansea is committed to safeguarding and promoting the welfare of young people and expects all staff to share this commitment. Appointments are subject to an enhanced DBS check and require registration with the Education Workforce Council for Wales.

Appointments will normally be made to the bottom of the salary scale with annual increments on 1st August each year (subject to completing 6 months service).

Benefits: National contract holiday entitlement, plus 5 closure days and 8 bank holidays, Teacher's Pension Scheme TPS, a range of employee benefits including salary sacrifice schemes, staff discounts and free parking.

Please apply via the link.

*Darlithydd - Electroneg

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am Ddarlithydd Electroneg cymwysedig a phrofiadol i ymuno â’n adran Peirianneg llwyddiannus.

Byddwch yn cynllunio, yn paratoi, ac yn darparu addysgu o ansawdd uchel ar draws amrywiaeth o gyrsiau mewn Electroneg o Lefel 1 i Lefel 3, gan gymell ac ysgogi dysgwyr i gyflawni eu gwir botensial.

Byddwch yn datblygu ac yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau dysgu, gan gynnwys defnyddio ILT, er mwyn sicrhau rhagoriaeth o ran addysgu a dysgu a chyflawni targedau cwrs ar gyfer cadw a chyrhaeddiad. Wedi ymrwymo i welliant parhaus ac ansawdd, byddwch yn cyfrannu at ddatblygu cwricwlwm a chynorthwyo gyda chynllunio a marchnata cyrsiau.

Gydag addysg hyd at Lefel 4 o leiaf neu gyfwerth mewn maes perthnasol, gyda gradd C neu uwch mewn cymhwyster rhifedd a llythrennedd Lefel 2, dylech hefyd feddu ar gymhwyster addysgu/hyfforddi cydnabyddedig neu fod yn barod i weithio tuag at un. 

Yn gyfathrebwr clir a hyderus, bydd gennych sgiliau trefnu, arwain a datrys problemau gwych, gyda'r gallu i weithio'n hyblyg, ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chaiff y ceisiadau hynny eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Coleg Gwyr Abertawe wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant pobl ifanc ac mae'n disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwnnw. Mae penodiadau yn amodol ar wiriad DBS manylach a rhaid cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (ar yr amod eich bod wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth). 

Hawl i gael gwyliau'r contract cenedlaethol ar sail pro-rata, 5 diwrnod cau pro-rata ac 8 gwyl banc pro-rata, Cynllun Pensiwn Athrawon, amrywiaeth o fanteision i gyflogeion gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.