Children's Party Organiser/Recreation Assistant Sports Centre*

The Sports Centre has an exciting opportunity for a Casual Children’s Party Organiser/Recreation Assistant to join their enthusiastic team. The successful candidate will work as and when required, typically over the weekends, in a fun and enjoyable role.

You will be responsible for the smooth operational running of all types of children’s parties including the supervision of the bouncy castle, face painting and mascot appearances ensuring that a first class level of customer service is provided.

Under the guidance of the Duty Supervisor and Manager, you will also be responsible for the effective operation of the Sports Centre undertaking coaching activities and conducting gym inductions. You will also set up and de-rig equipment and carry out housekeeping duties to include cleaning and security.

With Level 2 (GCSE or equivalent) qualifications in literacy and numeracy you will possess excellent customer service skills. A childcare qualification and first aid qualification are desirable or you should be prepared to work towards achieving these qualifications. Entry level Welsh has been identified as desirable for this position.

If you believe you have the right skills to join the team we would love to hear from you!

The College is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff to share this commitment. The successful candidate will be required to have an Enhanced DBS check (formerly known as CRB) in line with the government’s safer recruitment guidelines.

The College also values the diversity of its workforce and welcome applications from all sections of the community.

 

 

*Manyleb yr Unigolyn – Trefnydd Partïon Plant/ Cynorthwy-ydd Hamdden 

Mae gan y Ganolfan Chwaraeon gyfle cyffrous i Drefnydd Partïon Plant/Cynorthwy-ydd Hamdden Dros Dro ymuno â’u tîm brwdfrydig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio pan fo’r angen, fel arfer dros y penwythnosau, mewn swydd hwyliog sy’n llawn mwynhad.

Byddwch yn gyfrifol am sicrhau fod pob math o bartïon plant yn rhedeg yn llyfn gan gynnwys goruchwylio’r castell neidio, paentio wynebau ac ymddangosiadau gan fasgot gan sicrhau fod lefel arbennig o wasanaeth cwsmeriaid yn cael ei ddarparu.

Dan arweiniad y Goruchwyliwr Dyletswydd a’r Rheolwr, byddwch hefyd yn gyfrifol am redeg y Ganolfan Chwaraeon yn effeithiol gan ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a chynnal sesiynau cyflwyno yn y gampfa. Byddwch hefyd yn gosod offer ac yn ei dynnu i lawr ac yn cyflawni dyletswyddau cadw gan gynnwys glanhau a diogelwch.

Gyda chymwysterau Lefel 2 (TGAU neu gyfatebol) mewn rhifedd a llythrennedd byddwch yn meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych. Mae cymhwyster Gofal Plant a Chymhwyster Cymorth Cyntaf yn ddymunol neu dylech fod yn barod i weithio tuag at gyflawni’r cymwysterau hyn. Nodwyd Cymraeg lefel mynediad yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Os ydych chi’n credu fod gennych chi’r sgiliau cywir i ymuno â’r tîm byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Mae’r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc yn disgwyl i’r holl staff rannu’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gael Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (CRB blaenorol) yn unol â chanllawiau recriwtio diogel y llywodraeth.

Mae’r Coleg hefyd yn gwerthfawrogi amrywiaeth ei weithlu ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.