Management Trainer (Hyfforddwr Rheolwyr)

This is an exciting opportunity for a suitably qualified management trainer to join our highly successful and professional team, operating within GCS Training, the commercial branch of the College. You will be employed to train, asses and coach learners in all aspects of leadership and management up to level 7.

Working with employers to diagnose, support and implement training solutions to meet the needs of their business, you will provide a seamless learning experience that develops the individual and aids skills improvements to include QCF NVQs, apprenticeship frameworks, academic, endorsed and bespoke programmes.

With a proven track record of working in a leadership and management role you will have relevant commercial knowledge and an understanding of the qualifications.

You will possess a level 5 qualification in a relevant subject, a teaching qualification and an assessor’s award and ideally hold, or be prepared to work towards an IQA Internal Verifiers award. A willingness to learn Welsh has been deemed essential for this role.

Gower College Swansea is committed to safeguarding and promoting the welfare of young people and expects all staff to share this commitment.  Appointments are subject to an enhanced DBS check and require registration with the Education Workforce Council for Wales.
 

 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i hyfforddwr rheolwyr â chymwysterau addas ymuno â’n tîm proffesiynol a hynod lwyddiannus, sy’n gweithredu yn Hyfforddiant GCS, braich fasnachol y Coleg. Byddwch yn hyfforddi ac asesu dysgwyr ym mhob agwedd ar arweinyddiaeth a rheolaeth hyd at lefel 7.

Gan weithio gyda chyflogwyr i gefnogi, gweithredu a cheisio canfod atebion hyfforddi i ddiwallu anghenion eu busnes, byddwch yn darparu profiad dysgu di-dor i ddatblygu’r unigolyn a helpu i wella sgiliau gan gynnwys FfCCh ??NVQ, fframweithiau prentisiaeth, rhaglenni academaidd, rhaglenni a gymeradwyir a rhaglenni pwrpasol. 

Gyda hanes o weithio mewn rôl arweinyddiaeth a rheolaeth bydd gennych wybodaeth fasnachol berthnasol a dealltwriaeth o’r cymwysterau.

Byddwch yn meddu ar gymhwyster lefel 5 mewn pwnc perthnasol, cymhwyster addysgu a dyfarniad aseswr ac, yn ddelfrydol, byddwch yn meddu ar ddyfarniad Gwirwyr Mewnol IQA, neu fod yn barod i weithio tuag ato. Mae parodrwydd i ddysgu Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

Mae Coleg Gwyr Abertawe wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac mae'n disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn. Mae penodiadau yn amodol ar wiriad DBS manylach, ac mae'n ofynnol i gofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.