Director of International Programmes

An exciting opportunity has arisen for a Director of International Programmes within the Commercial Services team. Reporting to the Vice Principal of Commercial Business Development, the successful candidate will be responsible for enhancing CAVC’s expanding internationalisation function by negotiating, developing and project managing large and complex international commercial programmes. Under the stewardship of the new post holder, the activity of the International Department, and its portfolio of agents and partners will be measured, proactive, targeted and consistent. Specific responsibilities include:

  • Maintain ongoing communication and relationship development with the College’s established Chinese partners.
  • Management of the College’s China office, staff and existing contractual relationships, with a view to developing and maximising year-on-year growth.
  • Lead strategic international business development activity on behalf of the College, with specific responsibility for outbound sales and marketing activity.
  • Serve as a key communications and knowledge resource to the CAVC Leadership team, Admissions team, and all other relevant departments, sharing relevant policy developments.
  • Development of an influential UK-based network, in support of international growth. This will include developing a strong network of contacts in Welsh Government, Cardiff Capital Region, University and Industry partners, and a number of professional and membership organisations.
  • Create and deliver business plans, growth forecasts, analysis, and regular reporting, to provide a broader understanding of international markets and activities to the College Leadership Team, and a sound basis for informed decision-making and resource allocation.

The successful applicant will be educated to degree level, ideally holding a Master’s degree. They must also have adequate experience in education, international development and/or recruitment and have a proven track record of delivering successful internationalisation strategy. The role will require frequent international travel as well as travel between College sites, so passport, driving licence and the ability to regularly work overseas are essential requirements. Direct experience of the Chinese market would be an advantage.

Applications are to be made using the Cardiff and Vale College application process.

The closing date for receipt of completed application forms is 12pm on 5th April 2019.

 

Cyfarwyddwr Rhaglenni Rhyngwladol

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cyfarwyddwr Rhaglenni Rhyngwladol yn y tîm Gwasanaethau Masnachol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i Ddirprwy Bennaeth Datblygu Busnes Masnachol ac yn gyfrifol am wella gwaith rhyngwladoli’r Coleg sy’n ehangu ar hyn o bryd a hynny drwy drafod, cytuno, datblygu a rheoli prosiectau mawr a chymhleth a fydd yn ymwneud â rhaglenni masnachol rhyngwladol. O dan stiwardiaeth deiliad newydd y swydd, bydd gweithgaredd yr Adran Ryngwladol a’i phortffolio o asiantau a phartneriaid yn weithgaredd ystyriol, rhagweithiol, wedi’i dargedu ac yn gyson. Ymhlith y cyfrifoldebau penodol bydd:

  • Cynnal cyfathrebu a datblygu perthnasoedd yn barhaus gyda phartneriaid Tsieineaidd sefydlog y Coleg
  • Rheoli Swyddfa Tsieina’r Coleg ynghyd â’r staff a’r perthnasoedd contract presennol, â’r bwriad o ddatblygu a mwyafu’r twf flwyddyn ar ôl blwyddyn
  • Arwain gweithgaredd datblygu busnes rhyngwladol strategol ar ran y Coleg, â chyfrifoldeb penodol ar gyfer gweithgaredd marchnata ac allwerthu
  • Gweithredu yn adnodd cyfathrebu a gwybodaeth allweddol i Dîm Arweinyddiaeth y Coleg, y Tîm Derbyniadau, a phob adran berthnasol arall, gan rannu datblygiadau polisi perthnasol
  • Datblygu rhwydwaith dylanwadol yn y DU i gynorthwyo twf rhyngwladol; bydd hyn yn cynnwys datblygu rhwydwaith cryf o gysylltiadau yn Llywodraeth Cymru, ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, partneriaid diwydiant a’r Brifysgol, a nifer o sefydliadau proffesiynol a sefydliadau aelodaeth
  • Creu a chyflawni cynlluniau busnes, rhagolygon twf, dadansoddi ac adrodd rheolaidd, er mwyn rhoi dealltwriaeth ehangach o weithgareddau a marchnadoedd rhyngwladol i Dîm Arweinyddiaeth y Coleg, a sail gadarn ar gyfer dyrannu adnoddau a gwneud penderfyniadau gwybodus

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi derbyn addysg i lefel gradd ac, yn ddelfrydol, bydd ganddo/ganddi radd Meistr, digonol brofiad ym myd addysg, recriwtio a/neu ddatblygiad rhyngwladol, a phrofiad llwyddiannus o weithredu strategaeth ryngwladoli lwyddiannus. Bydd y rôl yn gofyn teithio rhyngwladol yn aml ynghyd â theithio rhwng safleoedd y Coleg, felly bydd pasbort, trwydded yrru a’r gallu i weithio dramor yn rheolaidd yn hanfodol. Bydd bod â phrofiad uniongyrchol o’r farchnad Tsieineaidd yn fanteisiol.

Rhaid gwneud cais drwy ddefnyddio proses ymgeisio Coleg Caerdydd a’r Fro.

12.00 ar Ebrill 5ed 2019 yw’r dyddiad olaf i dderbyn ffurflenni cais cyflawn.